Llun: PA
Mae’r Goruchaf Lys wedi dyfarnu heddiw fod yn rhaid cael sêl bendith y Senedd cyn i’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd ddechrau.

Er hyn, mae’r dyfarniad wedi gwrthod fod yn rhaid cael caniatâd llywodraethau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon cyn dechrau ar y broses.

Ym mis Tachwedd, dyfarnodd yr Uchel Lys mai’r Senedd oedd â’r gair olaf ar y mater hwn, ond fe apeliodd y Llywodraeth yn erbyn y dyfarniad a’i gyflwyno i’r Goruchaf Lys.

Heddiw, fe wrthododd 8 o farnwyr yr apêl, gyda 3 yn ei dderbyn.

Golyga hyn y bydd gan Aelodau Seneddol bleidlais cyn tanio Erthygl 50 o Gytundeb Lisbon i adael yr Undeb Ewropeaidd.

‘Dim newid’

Dywedodd y Twrnai Cyffredinol Jeremy Wright fod y Llywodraeth yn “siomedig” ond y byddan nhw’n gwneud “popeth sy’n angenrheidiol” fel rhan o’r dyfarniad.

Yn ôl llefarydd ar ran y Prif Weinidog, Theresa May, nid yw’r dyfarniad heddiw yn newid y canlyniad.

“Fe wnaeth pobol Prydain bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, a bydd y Llywodraeth yn gweithredu ar eu penderfyniad – tanio Erthygl 50, fel sydd wedi’i gynllunio, erbyn diwedd Mawrth. Nid yw dyfarniad heddiw yn newid hynny,” meddai.

Mae Ysgrifennydd Brexit Llywodraeth y Deyrnas wedi cadarnhau y bydd deddfwriaeth yn cael ei gyflwyno “o fewn dyddiau” ar y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl David Davies pwrpas hyn yw glynu at yr amserlen o ddechrau’r broses erbyn diwedd mis Mawrth.

‘Llafur ddim am rwystro’r broses’

Mae arweinydd y blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi awgrymu na fydd ei blaid yn “rhwystro’r broses o danio Erthygl 50” ond yn hytrach yn diwygio’r ddeddf i atal y Deyrnas Unedig rhag dod yn “noddfa drethi.”

Mae’n debyg y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol, sydd â 9 Aelod Seneddol ond mwy na chant o gymheiriaid, yn pleidleisio yn erbyn tanio Erthygl 50 o dan yr amodau presennol.