Taflegryn Trident yn cael ei danio
Mae Downing Street wedi cadarnhau fod Theresa May yn ymwybodol am brawf diweddar o system arfau niwclear Trident wrth iddi ddod yn Brif Weinidog y llynedd.

Er hyn ni wnaeth y llefarydd gadarnhau na gwadu’r adroddiadau ynglŷn â’r trafferthion wrth danio taflegryn o’r llong danfor yn ystod y prawf ger arfordir Florida ym mis Mehefin.

Dywedodd y llefarydd fod Theresa May wedi cael gwybod bod y prawf wedi’i gwblhau’n llwyddiannus, gan ganiatáu i HMS Vengeance ddychwelyd i weithredu.

“Wrth gymryd y swydd, cafodd y Prif Weinidog presennol ei briffio ar ystod o faterion niwclear, gan gynnwys hwn,” meddai llefarydd ar ran y Prif Weinidog.

Ond gwrthododd ddweud a oedd Theresa May yn gwybod am fethiant y prawf gan ychwanegu nad oedd hi’n rhan o bolisi’r Llywodraeth i drafod manylion gweithredol profion niwclear yn gyhoeddus.

Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Amddiffyn Michael fallon wneud datganiad yn y Senedd prynhawn ma.

Cefndir

Mae Theresa May wedi dod o dan bwysau i ddatgelu’r hyn yr oedd hi’n gwybod am y prawf wedi i’r Sunday Times honni fod ymgais wedi bod i gadw’n dawel am brawf a fethodd o’r taflegryn Trident II D5.

Fe wnaeth y Prif Weinidog gymeradwyo rhaglen adnewyddu £40 biliwn o Trident ym mis Gorffennaf y llynedd.