Fe allai rostio a ffrio bwydydd sy’n llawn starch gynyddu’r risg o ganser, yn ôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA).

Mae’r FSA wedi cyhoeddi rhybudd cyhoeddus ynglŷn â’r risg o acrylamide – cemegyn sy’n ffurfio mewn rhai bwydydd pan maen nhw’n cael eu coginio ar dymheredd uchel (yn uwch na 120C).

Mae ymgyrch newydd yn cynghori pobl sut i leihau’r risg, gan gynnwys coginio bwyd nes ei fod yn lliw euraidd nid brown tywyll wrth ffrio, rhostio, grilio a thostio.