Llong danfor Trident (Llun: bodgebrooks CCA 2.0)
Mae gwleidyddion wedi galw ar y Prif Weinidog Theresa May i ateb cwestiynau am fethiant prawf y system arfau niwclear, Trident.

Yn ôl adroddiadau yn y Sunday Times, bu trafferthion wrth geisio saethu taflegryn o’r llong danfor yn ystod prawf, ger arfordir Florida ym mis Mehefin.

Doedd dim sôn am y methiant yma yn ystod araith Theresa May cyn pleidlais i adnewyddu Trident ar gost o £40 biliwn ac mae hyn wedi arwain at gyhuddiadau bod y Prif Weinidog yn fwriadol wedi cadw’r digwyddiad yn dawel.

Yn ystod cyfweliad ynglŷn â’r mater ar raglen Andrew Marr ar y BBC ddydd Sul, fe wnaeth Theresa May wrthod ateb pedwar cwestiwn ynglŷn ag oedd hi’n gwybod am fethiant y prawf.

Gwall Catastroffig

Wrth ymateb i awgrymiadau bod y taflegryn wedi gwyro i’r cyfeiriad anghywir dywedodd arweinydd yr wrthblaid, Jeremy Corbyn: “Mae hi’n wall catastroffig pan mae taflegryn yn gwyro i’r cyfeiriad anghywir ac er nad oedd hi wedi ei harfogi, pwy a ŵyr be allai fod wedi digwydd.”

“Mae hyn yn fater difrifol … mae angen datgeliad llawn o’r hyn  ddigwyddodd, pwy oedd yn gwybod, a pam nad oedd Tŷ’r Cyffredin wedi cael gwybod am hyn,” meddai arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon ar Twitter.