Fe fydd aelodau seneddol yr SNP yn “bendant” yn pleidleisio yn erbyn gweithredu Cymal 50 er mwyn dechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl Gweinidog Brexit yr Alban, Mike Russell.

Dywedodd y byddai unrhyw aelod seneddol sy’n pleidleisio o blaid gweithredu Cymal 50 yn cefnogi gweledigaeth Prif Weinidog Prydain, Theresa May o Brydain “ynysig”.

Mae Theresa May eisoes wedi datgan ei bwriad i Brydain adael y farchnad sengl, ac mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon yn dweud bod hyn yn golygu bod ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban yn fwy tebygol.

‘Dim posibilrwydd’ o gefnogi Bil Cymal 50

Dywedodd Mike Russell nad oedd yn gweld “unrhyw bosibilrwydd” o gefnogi Bil Cymal 50 fel ag y mae’r sefyllfa ar hyn o bryd.

Dywedodd wrth raglen Sunday Politics Scotland fod “cefnogi Cymal 50 nid yn unig yn cefnogi’r bleidlais yn y Deyrnas Unedig – ac wrth gwrs roedd y bleidlais yn yr Alban yn wahanol iawn – ond mewn gwirionedd, mae’n cefnogi’r math o safbwynt fu gan Theresa May am y math o Brexit mae hi am ei gael, ac mae hynny’n cefnogi’r math o wlad mae hi am ei chael.

“Mae hi am gael gwlad ynysig, mae hi am gael gwlad sy’n fewnblyg ac mae hi am gael gwlad sy’n gwrthod manteision mewnfudo.

“Nid dyna’r wlad y mae’r un ohonom am i’r Alban fod a dyna un o’r rhesymau cryfaf am ddweud ein bod yn ei wrthod.”

Opsiynau’r Alban

Pleidleisiodd 62% o Albanwyr o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac mae Llywodraeth yr Alban wrthi’n llunio papur a fydd yn amlinellu nifer o opsiynau er mwyn lleihau effaith Brexit ar y wlad.

Mae’r rhain yn cynnwys y posibilrwydd y gallai’r Alban aros yn y farchnad sengl, er bod Theresa May wedi wfftio’r awgrym.

Mae Mike Rusell wedi rhybuddio bod “y cloc yn tician” cyn ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban, gan fod Llywodraeth yr Alban eisoes wedi llunio deddfwriaeth ddrafft er mwyn i hyn allu digwydd.

“Does dim bygythiad yn cael ei wneud, fe ddywedon ni ar ddechrau’r broses hon fod angen ystyried opsiynau difrifol, ac fe aethon ni drwyddyn nhw’n ofalus iawn.

“Fe ddywedon ni hefyd fod mandad democrataidd, ac mae yna un, i gynnal refferendwm annibyniaeth arall pe baen ni’n cael ein tynnu allan o Ewrop yn erbyn ein hewyllys, roedd hynny yn y maniffesto.”