Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi gwrthod gwadu ei bod hi’n gwybod am brawf aflwyddiannus ar daflegrau Trident wythnosau’n unig cyn adnewyddu’r rhaglen gwerth £40 biliwn fis Gorffennaf y llynedd.

Mae Theresa May wedi gwrthod ateb cwestiynau am ei gwybodaeth hi o’r sefyllfa.

Ond mae adroddiad yn y Sunday Times yn honni bod taflegrau wedi methu ar ôl cael eu lansio oddi ar arfordir Florida.

Wnaeth Theresa May ddim sôn am hyn yn ei haraith wrth iddi annog aelodau seneddol i gefnogi’r cynllun, ac mae hi wedi cael ei chyhuddo o gelu’r sefyllfa.

Dywedodd hi wrth raglen Andrew Marr y BBC fod ganddi “ffydd” yn y system.

“Pan wnes i’r araith honno yn Nhŷ’r Cyffredin, roedden ni’n trafod a ddylen ni adnewyddu ein Trident ni neu beidio, a ddylen ni fod â thaflegrau Trident, ataliad niwclear annibynnol, yn y dyfodol.

“Dw i’n credu y dylen ni amddiffyn ein gwlad…”

Dywedodd fod y mater yn un “difrifol iawn”.

Amau Llywodraeth Prydain

Yn ôl y Sunday Times, mae amheuon o hyd a oedd Llywodraeth Prydain yn ymwybodol o’r prawf cyn y bleidlais.

Ychwanegodd Theresa May: “Roedd profion sy’n digwydd drwy’r amser ar gyfer ein ataliadau niwclear.

“Yr hyn ry’n ni’n sôn amdano yn y ddadl honno a ddigwyddodd yw’r dyfodol.”

Dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur, Kevan Jones: “Mae ataliad niwclear annibynnol y DU yn gonglfaen bwysig i amddiffyn ein gwlad.

“Os oes yna broblemau, ddylen nhw ddim bod wedi cael eu celu yn y modd drwsgl hon.

“Dylai gweinidogion ddweud os oes yna broblemau a dylid cynnal ymchwiliad brys i’r hyn a ddigwyddodd.”

Ond wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain fod gallu’r taflegrau’n “ddiamheuol”.