Yr Arlywydd Donald Trump (Llun: AP/David Goldman)
Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi dweud mai’r “datganiad mwyaf” y gallai hi ei wneud am rôl menywod yn y byd yw cyfarfod ag Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.

Daeth cadarnhad y bydd hi’n teithio i Washington ddydd Gwener i gyfarfod â’r Arlywydd newydd ar ddiwedd wythnos o brotestiadau byd-eang yn ei erbyn.

Mae hi wedi addo dweud wrth Donald Trump pan fydd e’n gwneud sylwadau “annerbyniol”, yn union fel y gwnaeth pan ddywedodd fod ei statws fel person enwog wedi ei alluogi i gyffwrdd â menywod mewn modd rhywiol.

‘Perthynas arbennig’

Yn ôl Theresa May, bydd “perthynas arbennig” Prydain a’r Unol Daleithiau’n ei galluogi hi i dynnu sylw Donald Trump at ei sylwadau annerbyniol.

Dywedodd hi wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Dw i eisoes wedi dweud bod rhai o’r sylwadau mae Donald Trump wedi’u gwneud mewn perthynas â menywod yn annerbyniol, ac mae e wedi ymddiheuro am rai ohonyn nhw.

“Pan fydda i’n eistedd, dw i’n credu mai’r datganiad mwyaf y gallaf ei wneud am rôl menywod yw’r ffaith y bydda i yno fel Prif Weinidog benywaidd, Prif Weinidog Prydain, yn siarad â fe’n uniongyrchol am y buddiannau sy’n gyffredin rhyngom.”

Donald Trump yn dod i wledydd Prydain?

Mae’n bosib y gallai Donald Trump deithio’n swyddogol i wledydd Prydain eleni.

Dywedodd Theresa May: “Byddwn i’n edrych ymlaen at groesawu’r Arlywydd Trump yma i’r Deyrnas Unedig rywbryd eleni pe bai hynny’n bosib oherwydd yn nhermau ymweliadau gwladol, mae’n fater i Balas Buckingham a dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi’r ymweliadau ar gyfer eleni eto.”