Wayne Rooney (Llun: Gwefan Man U)
Mae Wayne Rooney wedi torri record Bobby Charlton o 249 o goliau i Manchester United yn ystod gêm gyfartal yn Stoke a orffennodd yn 1-1.

Daeth gôl rhif 250 yr ymosodwr o gic rydd yn ystod yr amser a ganiateir am anafiadau.

Roedd Syr Bobby Charlton yn y dorf yn Stadiwm Bet365 i weld ei record yn cael ei thorri.

‘Braint enfawr’

Ar ôl y gêm, dywedodd Wayne Rooney wrth Sky Sports: “Mae’n anodd bod yn rhy hapus ar hyn o bryd oherwydd y canlyniad – a cholli dau bwynt – ond yn y darlun mawr, mae’n anrhydedd enfawr i fi.

“Mae’n rhywbeth nad o’n i erioed wedi’i ddisgwyl wrth ymuno â’r clwb ond dw i’n falch iawn a gobeithio bod llawer mwy i ddod eto.”

Mae Wayne Rooney wedi chwarae mewn 546 o gemau o’r bron i Man U, ac fe ddaeth oddi ar y fainc ar ôl 66 o funudau yn eilydd yn lle Juan Mata, a sgoriodd i’w rwyd ei hun i roi’r flaenoriaeth i Stoke cyn i’r Cochion daro’n ôl.