Yahya Jammeh (Llun: IISD-Earth-Negotiations-Bulletin)
Dydy awyrennau ddim yn cael teithio o wledydd Prydain i’r Gambia am y tro, meddai’r Swyddfa Dramor.

Bu’n rhaid cludo teithwyr yn ôl o’r wlad ddechrau’r wythnos yn sgil yr ansefydlogrwydd gwleidyddol yn y wlad ar hyn o bryd.

Mae disgwyl i Yahya Jammeh, yr Arlywydd sydd wedi cael ei guro mewn etholiad, adael am Guinea ar ôl datgan cyn hyn na fyddai’n ildio grym i Adama Barrow.

Penderfynodd cwmni Thomas Cook nad oedd yn ddiogel i ryw 1,000 o deithwyr aros yn y wlad, ac fe gafodd trefniadau eu gwneud i’w cludo nhw allan o’r wlad yn dilyn rhybudd gan y Swyddfa Dramor ddydd Mawrth.