Donald Trump (Llun: CC4.0/Michael Vadon)
Mae hyd at 80,000 o bobol wedi bod yn gorymdeithio yn Llundain yn erbyn Donald Trump.

Mae’n un o nifer o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal ar draws y byd yn erbyn agweddau Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau.

Mae gorymdeithiau hefyd wedi cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Manceinion, Caeredin, Belfast a Lerpwl.

Mae disgwyl hyd at 200,000 mewn gorymdaith yn Washington heddiw.

‘Hybu gwerthoedd positif’

“Hybu gwerthoedd positif” menywod yn y gymdeithas yw diben yr orymdaith yn Llundain, meddai’r trefnwyr.

Dechreuodd yr orymdaith yn Llysgenhadaeth America cyn cyrraedd Sgwâr Trafalgar ar gyfer rali.

Roedd sloganau’r protestwyr yn cynnwys ‘Dump Trump’.

Mae’r protestwyr hefyd wedi bod yn tynnu sylw at sylwadau Donald Trump ar ôl iddo frolio y gallai ddenu unrhyw fenyw drwy gyffwrdd ynddyn nhw mewn modd rhywiol.

Ymhlith y dorf roedd Maer Llundain, Sadiq Khan a’r Aelod Seneddol Llafur, Harriet Harman a ddywedodd ei bod yn “drueni” mai dau dymor yn unig y gall Arlywydd fod yn ei swydd.