Donald Trump (Llun: AP/David Goldman)
Haciwr oedd yn gyfrifol am neges ar dudalen Twitter BBC Northampton yn dweud bod Donald Trump wedi cael ei saethu.

Daeth yr adroddiad honedig ar ôl seremoni urddo Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau brynhawn ddoe.

Arweiniodd y seremoni at drais a phrotestiadau ar draws y byd.

Cafodd amheuon am yr ‘adroddiad’ eu codi gan ddefnyddwyr Twitter, oedd yn dweud nad oedden nhw wedi clywed am y digwyddiad yn unman arall.

Ond fe gafodd y neges ei dileu yn fuan wedyn, a BBC Northampton yn cynnig eglurhad.