Paul Nuttall yn y Senedd (Llun: Golwg360)
Arweinydd UKIP, Paul Nuttall fydd ymgeisydd y blaid yn is-etholiad Stoke ar Chwefror 23.

Mae’r is-etholiad yn cael ei gynnal yn sgil penderfyniad yr Aelod Seneddol Llafur, Tristram Hunt i dderbyn swydd cyfarwyddwr amgueddfa’r V&A yn Llundain.

Sedd ddiogel yw hon yn draddodiadol i Lafur, ond mae mwyafrif y blaid wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae disgwyl i’r Blaid Lafur gyhoeddi eu hymgeisydd ddydd Mercher.

Bydd ail is-etholiad ddydd Mercher yn Copeland yn sgil ymddiswyddiad yr Aelod Seneddol Llafur, Jamie Reed, sydd wedi derbyn swydd gyda safle niwclear Sellafield.