Byddai annibyniaeth yn arwain at lymder mawr i’r Alban a gadael trigolion y wlad heb arian ar gyfer gwasanaethau lleol hanfodol, yn ôl Jeremy Corbyn.

Dyna oedd rhybudd arweinydd y Blaid Lafur ar ôl i Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, ddweud bod cynllun Theresa May i dynnu Prydain o’r farchnad sengl yn gwneud ail refferendwm ar annibyniaeth yn fwy tebygol.

Wrth siarad yn Glasgow, mynnodd Jeremy Corbyn hefyd y byddai Brexit yn dod â “chyfleoedd” i’r Alban, a’r posibilrwydd o fwy o bwerau yn cael eu datganoli i Holyrood.

Annibyniaeth – ‘ddim yr opsiwn gorau’

Yn ôl Jeremy Corbyn mae “gan yr Alban y dalent a’r gallu i reoli ei materion ei hun”, ond nid yw yn credu mai dyma “fyddai’r opsiwn gorau i bobol yr Alban”.

Ers y refferendwm yn 2014, mae’r achos am Alban annibynnol wedi “gwanhau”, meddai, gan gyfeirio at y gostyngiad ym mhrisiau olew Môr y Gogledd.

Mae ei honiadau wedi cael eu gwrthod gan Nicola Sturgeon, sy’n dweud ei fod yn siarad drwy ei het.