Martin McGuinnes ac Ian Paisley, yr hyna' (Llun Llywodrath yr Alban CCA2.0)
Mae mab cyn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Ian Paisley, wedi talu teyrnged i un o gyn-arweinwyr mudiad filwrol yr IRA,  Martin McGuinness, a gyhoeddodd ei fod yn rhoi’r gorau i wleidyddiaeth oherwydd salwch.

Galwodd Ian Paisley yr ieuengaf, sy’n Aelod Seneddol, ar arweinwyr presennol yr Unoliaethwyr Democrataidd i ddilyn esiampl gwleidydd Sinn Féin a’i dad a oedd wedi cydweithio gyda’i gilydd wrth arwain Gogledd Iwerddon.

Wrth ddiolch i Martin McGuinness, fe ddywedodd bod y dyn a fu’n arwain un o garfannau milwrol yr IRA wedi “achub bywydau” yn ystod ei daith bersonol at heddwch.

Awgrymodd hefyd y gallai arweinwyr presennol Stormont ddysgu gwersi o’r dyddiau cynnar – mae’r llywodraeth ar y cyd rhwng Sinn Féin a’r DUP wedi chwalu yn ystod y dyddiau diwetha’.

“Sefydlogrwydd, heddwch ac ail-adeiladu”

Dywedodd Ian Paisley na ddylai ei statws fel unoliaethwr na Phrotestant ygu ei atal rhag talu teyrnged i’r arweinydd gweriniaethol – er fod Martin McGuinness yn cael y bai am fod y tu cefn i nifer o ymosodiadau brawychol yng Ngogledd Iwerddon.

“Dw i am ddweud diolch a dw i’n credu ei fod yn bwysig ein bod yn edrych ar y ffaith na fydden ni lle’r ’yn ni yng Ngogledd Iwerddon o ran cael sefydlogrwydd, heddwch a’r cyfle i ailadeiladu ein gwlad oni bai am ei waith e, yn enwedig gyda fy nhad ar ddechrau’r daith hir hon,” meddai wrth BBC Gogledd Iwerddon.

Mae Martin McGuinness wedi camu o’r llwyfan gwleidyddol, a hynny oherwydd problemau iechyd, yn fuan yn dilyn rhwyg rhwng y DUP a Sinn Féin a arweiniodd at dorri’r llywodraeth ar y cyd ym Melffast.