Mae dyn 46 oed o Birmingham wedi’i gyhuddo o lofruddio’i fab a’i ferch ac o geisio llofruddio eu mam yn dilyn tân yng nghartre’r teulu.

Mae Endris Mohammed wedi’i gyhuddo o lofruddio Saros, wyth oed, a Leanor, chwech oed ac o geisio llofruddio Penil Teklehaimanot.

Cafodd ei holi am y tro cynta’ nos Fawrth. Fe fu yn yr ysbyty am gyfnod hir yn derbyn triniaeth am losgiadau.

Cafwyd hyd iddo mewn car yn Newcastle-under-Lyme yn Swydd Stafford ym mis Hydref. Daethpwyd o hyd i’r plant yn eu cartref yn Birmingham ar Hydref 28, ac fe fuon nhw farw yn yr ysbyty.

Mae profion yn cael eu cynnal i geisio darganfod sut y bu’r ddau farw.

Bydd Endris Mohammed yn mynd gerbron ynadon yn Walsall heddiw.