Mae cwmni ffonau symudol EE wedi cael dirwy o £2.7m am godi gormod ar eu cwsmeriaid am eu biliau ffôn.

Cafwyd y cwmni’n euog o dorri “rheol sylfaenol bilio” ar ddau achlysur, wrth iddyn nhw godi cyfanswm o £250,000 yn ormod ar hyd at 40,000 o gwsmeriaid gyda’i gilydd.

Cawson nhw eu cyhuddo gan Ofcom o fod yn “ddiofal neu’n esgeulus”, ond dywedodd y rheoleiddiwr nad oedd eu gweithredoedd yn fwriadol.

Serch hynny, roedden nhw wedi penderfynu peidio ag ad-dalu rhan fwya’r arian oedd yn ddyledus i’w cwsmeriaid.

‘Annerbyniol’

Dywedodd llefarydd ar ran Ofcom fod gweithredoedd EE yn “annerbyniol”, ac na fydden nhw’n “goddef” y camgymeriadau a gafodd eu gwneud.

Cafodd EE ei brynu gan BT am £12.5 biliwn y llynedd.

Mae’r camgymeriadau’n ymwneud â gwasanaeth gofal cwsmeriaid y cwmni – rhif 150 – wrth i gwsmeriaid orfod talu am alwadau cyfwerth â ffonio’r Unol Daleithiau.

Roedd rhaid i gwsmeriaid dalu £1.20 y funud, yn hytrach na 19c, ac fe effeithiodd ar 32,145 o gwsmeriaid. Penderfynodd EE roi’r arian i elusennau yn hytrach nag i’w cwsmeriaid.

Mae’r ddirwy gan Ofcom wedi cael ei lleihau o 10% am iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb am y sefyllfa yn y pen draw, ac fe fydd y Trysorlys yn derbyn yr arian o’r ddirwy.