Theresa May, Llun; Hannah McKay/PA Wire
Mae Theresa May wedi cadarnhau y bydd Prydain yn gadael y farchnad sengl wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae hi hefyd wedi cadarnhau y bydd Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yn cael pleidleisio ar y cytundeb terfynol rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.

Daw sylwadau Prif Weinidog Prydain wrth iddi areithio yn Llundain heddiw ynglŷn â’i chynlluniau am ddyfodol Prydain yn dilyn Brexit.

Dywedodd nad yw ei chynlluniau’n caniatáu i Brydain barhau’n aelod o’r farchnad sengl a fyddai’n galw am symudiad rhydd i bobol ac yn derbyn awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop.

Yn hytrach, dywedodd y bydd yn ceisio’r “mynediad gorau posib i’r farchnad sengl ar sail ddwyochrog, drwy gytundeb masnach gynhwysol.”

Dwy flynedd i lunio cytundeb

Ni wnaeth Theresa May ddatgelu a fyddai pleidlais yn erbyn y cytundeb yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi  yn San Steffan yn golygu y byddai’r Deyrnas Unedig yn parhau yn yr Undeb Ewropeaidd, neu’n gadael heb gytundeb.

O dan Erthygl 50, mae gan Brydain ddwy flynedd i negydu cytundeb ar ôl hysbysu’r Cyngor Ewropeaidd am y bwriad i adael – ac mae disgwyl i Theresa May wneud hynny erbyn diwedd mis Mawrth.

Mae Prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, wedi awgrymu fod rhaid cael cytundeb erbyn diwedd Hydref 2018 i ganiatáu amser i gadarnhau’r cytundeb cyn bod Prydain yn gadael ym mis Mawrth 2019 – sy’n golygu bod disgwyl i Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi gael pleidlais yn ystod y chwe mis nesaf.

Dywedodd Theresa May ei bod am adennill rheolaeth dros ffiniau a mewnfudo.

Ychwanegodd hefyd ei bod am barhau yn rhan o gytundeb tollau gyda’r 27 gwlad arall sy’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd, cyn ychwanegu fod ganddi “feddwl agored” a fyddai hyn drwy aelodaeth gysylltiol o’r Undeb Tollau neu drwy drefniant arall.

Masnach rydd – barn dau ASE

Mae dau o Aelodau Seneddol Ewropeaidd Cymru wedi ymateb i gyhoeddiad Theresa May heddiw.

Dywedodd Derek Vaughan, ASE Llafur, “mae dod allan o’r farchnad sengl a’r undeb dollau yn mynd i niweidio economi Cymru ac arwain at golli swyddi ar raddfa fawr.”

Dywedodd fod cynnig Theresa May i gael cytundeb masnach rydd gyda’r Undeb Ewropeaidd yn mynd i “gymryd blynyddoedd, mwy na thebyg degawd i gytuno arno.”

Croesawodd Nathan Gill y cyhoeddiad gan ddweud, “roedd parhau yn aelod o’r Farchnad Sengl ddim yn opsiwn erioed achos byddai’n golygu dim Brexit o gwbl.”

“Mae’n amlwg i mi mai’r cytundeb gorau i Gymru a hefyd y Deyrnas Unedig fyddai cytundeb masnach rydd rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, gan roi i gwmnïau Prydeinig y rhyddid i fasnachu a gweithredu yn y Farchnad Sengl, a gadael busnesau Ewropeaidd i wneud yr un peth yma. Byddai’n dod yn ôl â’r rheolaeth dros fewnfudo a diwedd i oruchafiaeth y Llysoedd Ewropeaidd,” meddai.

“Mae gormod o’r ‘elît’ mewn cyfryngau a gwleidyddiaeth yn ceisio ail-fyw’r refferendwm, yn hytrach na pharchu ewyllys y bobol a symud ymlaen,” meddai wedyn.

‘Achos pryder i ffermwyr’

Mae undeb amaethwyr yr NFU wedi cyfleu pryder ynglŷn â phenderfyniad Theresa May i adael y farchnad sengl.

Mewn datganiad fe gyfeiriodd yr NFU at bwysigrwydd marchnadoedd allforio Ewrop i ffermwyr Cymru.

“Gyda mwy na thraean o gig oen Cymreig yn mynd i’r Undeb Ewropeaidd a gyda thua 90% o allforion bwyd a diod yn cael eu hallforio i’r Undeb Ewropeaidd, does dim modd dadlau yn erbyn pwysigrwydd y marchnadoedd yma i ni,” dywedodd Llywydd NFU Cymru, Stephen James.

Mae NFU Cymru hefyd wedi cyfeirio at y posibilrwydd o godi tariffiau ar gynnyrch o ganlyniad i Brydain yn gadael y farchnad sengl.

“Ni ddylai ein mynediad i farchnadoedd Ewropeaidd gael ei rwystro gan dariffiau, dydyn ni ddim eisiau rhwystrau i’n mynediad i farchnad yr Undeb Ewropeaidd.”

Hefyd mi fydd gadael y farchnad sengl yn golygu bydd yn rhaid sefydlu cytundeb masnach rydd newydd ag Ewrop ac y gall y broses yma gymryd amser hir, mater arall fydd yn peri gofid i amaethwyr Cymru, meddai Stephen James.