Stormont Llun: PA
Fe allai Gogledd Iwerddon wynebu ail etholiad mewn wyth mis wedi i’r blaid Sinn Fein wrthod enwebu dirprwy brif weinidog i gymryd lle Martin McGuinness.

Fe ymddiswyddodd Martin McGuinness yr wythnos diwethaf mewn protest yn erbyn y  modd y mae Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (DUP) wedi ymdrin â chynllun ynni adnewyddol.

Ymysg nifer o resymau eraill, roedd yn gwrthwynebu penderfyniad y Prif Weinidog, Arlene Foster, i beidio â chamu o’r neilltu er mwyn cynnal ymchwiliad i sgandal cynllun gwresogi sydd wedi gadael Stormont yn wynebu gorwariant o £490 miliwn.

Etholiad ‘ymhen wythnosau’

Mae Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, James Brokenshire, yn wynebu galwadau i gyhoeddi dyddiad ar gyfer ail etholiad allai gael ei gynnal ddiwedd Chwefror neu ddechrau Mawrth, ynghanol trafodaethau Brexit.

Roedd ymddiswyddiad Martin McGuinnes wedi diddymu Arlene Foster o’i rôl fel prif weinidog yn awtomatig, am fod yr adeiledd yn golygu na all un lywodraethu heb y llall.

Mae Sinn Fein wedi cyhuddo DUP o “haerllugrwydd a diffyg parch” gan rybuddio y bydd y gweriniaethwyr yn cytuno ar glymblaid tymor hir os bydd eu partneriaid yn ildio ar gyfres o “faterion cydraddoldeb” ar sail yr iaith Wyddelig a hawliau i hoywon.