Donald Trump (Llun: Michael Vadon CCA 4.0)
Mae Donald Trump wedi rhoi addewid i sicrhau bod cytundeb masnach gyda Phrydain yn flaenoriaeth ar ôl iddo ddechrau ei swydd fel Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Dywedodd y darpar-Arlywydd ei fod yn rhagweld y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn “beth da iawn” i’r Deyrnas Unedig.

Mewn cyfweliad gyda The Times, dywedodd Donald Trump y byddai’n gwahodd Theresa May am drafodaethau yn Washington yn fuan ar ôl iddo gael ei urddo’n swyddogol ddydd Gwener.

Mae ei addewid yn groes i sylwadau Barack Obama, a ddywedodd y byddai Prydain yn mynd i “gefn y ciw” o ran cytundebau masnach gyda’r Unol Daleithiau yn sgil Brexit.

Daw sylwadau Donald Trump wrth i’r Prif Weinidog baratoi i amlinellu ei strategaeth ar gyfer y trafodaethau Brexit mewn araith fawr ddydd Mawrth.