Tywysog Charles (Llun: PA)
Mae Tywysog Charles wedi ysgrifennu llyfr newydd am newid hinsawdd.

Cafodd y newyddion ei ddatgelu gan un o’i gyd-awduron, Tony Juniper.

Cyfrol i oedolion yw hi, ac mae’n mynd i’r afael â rhai o’r atebion i broblemau amgylcheddol byd-eang.

Cyn-gyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear, Tony Juniper a’r gwyddonydd ym Mhrifysgol Caergrawnt, Emily Shuckburgh yw’r ddau awdur arall.

Ladybird, sy’n adnabyddus fel cyhoeddwr i blant, sy’n cyhoeddi’r gyfrol.

Yn ôl un o gyhoeddwyr Penguin, Rowland White, Tywysog Charles oedd wedi awgrymu’r syniad ar gyfer y gyfrol.

“Roedd yn gyd-ddigwyddiad ein bod ni’n meddwl am gyfres newydd i oedolion yn dilyn llwyddiant anferth llyfrau coeglyd, ond y tro hwn roedden ni am gael llyfrau ffeithiol gan arbenigwyr ar wyddoniaeth, hanes a’r celfyddydau.”

Bydd y llyfr yn cael ei gyhoeddi ar Ionawr 26.