Mae’r cyn-yrrwr rasio ceir modur Syr Stirling Moss yn yr ysbyty yn Singapore ar ôl cael haint ar ei ysgyfaint.

Daeth cadarnhad brynhawn ddoe ei fod e yn yr ysbyty ers ychydig ddiwrnodau cyn y Nadolig.

Ond mae e bellach mewn “cyflwr sefydlog”, yn ôl ei deulu, ac yn gwella ar ôl “cymhlethdodau”.

Dywedodd ei deulu ei fod e “mewn hwyliau da” ac yn siomedig ei fod e wedi colli’r cyfle i fynd ar daith ar long gyda’i ffrindiau.

Mae disgwyl iddo fe a’i wraig barhau â’i gwyliau ar ôl iddo adael yr ysbyty, ond does dim sicrwydd eto pryd fydd hynny.