Tonnau garw Môr y Gogledd ddoe (llun: Owen Humphreys/PA Wire)
Mae miloedd o drigolion ar arfordir dwyrain Lloegr wedi dychwelyd i’w cartrefi ar ôl i’r perygl o lifogydd fynd heibio.

Roedd Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi 17 o rybuddion llifogydd difrifol – sy’n golygu perygl i fywydau – yn siroedd Norfolk, Suffolk ac Essex ddoe.

Mae’r rhain wedi cael eu tynnu’n ôl bellach, ac mae rhyddhad i’w deimlo yn yr ardaloedd a fu dan fygythiad na wnaeth y storm achosi’r llifogydd fel yr ofnwyd.

Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Essex, Matthew Horne, eu bod wedi gweithredu yn unol â chyngor Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Swyddfa Dywydd.

“Rydym yn paratoi ar gyfer y senario waethaf ac fe fydden ni’n hapus i gymryd yr un penderfyniad eto petaen ni’n cael yr un cyngor ag a gawson ni dros y 36 diwethaf,” meddai, wrth gyfeirio at y penderfyniad i anfon miloedd o bobl o’u cartrefi.