(llun: yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi addo dal i gefnogi ffermwyr mynydd sy’n wynebu ansicrwydd yn sgil Brexit.

Dywedodd y cyfarwyddwr cyffredinol, y Fonesig Helen Ghosh y byddai ffermio da byw yn dal i fod yn rhan greiddiol o gynlluniau’r ymddiriedolaeth  ar gyfer rheoli ucheldiroedd.

Gyda ffermwyr yn wynebu colli taliadau’r Polisi Amaeth Cyffredin, mae rhai cadwriaethwyr wedi bod yn galw am roi’r gorau i ffermio’r ucheldiroedd a gadael i’r tirwedd dyfu’n wyllt.

Ond dywedodd Helen Ghosh fod yr ymddiriedolaeth yn edrych ar ffyrdd o sicrhau dyfodol cynaliadwy i ffermio’r ucheldiroedd, fel canolbwyntio ar dda byw o ansawdd uchel a all ddenu prisiau uwch.

“Nid yw cynnal niferoedd uchel na chynyddol o anifeiliaid yn ateb ariannol hirdymor,” meddai.

“Ar yr un pryd, mae magu anifeiliaid a gweithio gyda nhw trwy’r tymhorau yn rhan ganolog o ddiwylliant a thirwedd yr ucheldiroedd, a dylem ddathlu hyn a manteisio arno.

“Mae’r sgiliau hyn yn hanfodol i’r math o reolaeth o dirwedd a chynefinoedd y bydd arnom ei eisiau a’i angen.

“Felly mae arnom eisiau cefnogi tenantiaid ffermydd yr ymddiriedolaeth i gynnal preiddiau iach, cynaliadwy, a’r sgiliau bugeilio i ofalu amdanyn nhw a sicrhau eu bod yn profi yn y lle iawn ar yr amser iawn yn y niferoedd iawn.”