Mae adroddiad newydd yn awgrymu y dylai pobol ganol oed a hŷn roi’r gorau i yfed te neu goffi ar ôl cinio er mwyn cael noson dda o gwsg.

Mae’r ddogfen sy’n rhan o fenter Age UK ac wedi ei ysgrifennu gan y Cyngor Byd Eang ar Iechyd yr Ymennydd hefyd yn argymell osgoi pendwmpian yn ystod y dydd.

Argymhelliad arall yw cysgu rhwng saith i wyth awr y noson.

Yn ôl Prif Wyddonydd Age Uk, James Goodwin: “Y neges yw, er mwyn sicrhau ein bod yn cadw’n meddyliau yn graff yn hwyrach yn ein bywydau, mae’n syniad gofalu am ein cwsg.”

Dyma awgrymiadau i bobol dros 50 ynglŷn â sut i wella eu cwsg:

· Bwyta swper rhyw dair awr cyn mynd i gysgu

· Osgoi caffein amser cinio

· Peidio ag yfed alcohol cyn mynd i gysgu

· Peidio ag edrych ar sgriniau electroneg ar ôl mynd i’r gwely

· Dihuno yr un amser pob dydd