Fe fydd merch yn ei harddegau yn ymddangos gerbron ynadon heddiw wedi ei chyhuddo o lofruddiaeth merch saith oed yn Swydd Efrog.

Mae’r ferch 15 oed hefyd wedi ei chyhuddo o fod ag arf yn ei meddiant, yn dilyn marwolaeth Katie Rough yn ardal Woodthorpe, Caerefrog, ddydd Llun.

Cafodd Katie Rough ei chanfod wedi’i hanafu ar lwybr rhyw filltir o’i chartref, a chafodd ei chludo i’r ysbyty lle farw yn ddiweddarach.