Mae Swyddfa’r Post yn bwriadu cau 37 o’u canghennau, gan ddiswyddo 300 o staff a chael gwared â 127 o swyddogaethau arbenigol.

Fe ddaeth y cadarnhad wrth i Undeb Gweithwyr Cyfathrebu (Communication Workers Union) gyhoeddi y byddai hyn yn ychwanegol at y 62 o ganghennau a gaewyd yn ystod 2016.

“Mae’r rownd ddiweddara’ o ddiswyddiadau yma yn brawf pellach fod Swyddfa’r Post mewn creisis,” meddai Dave Ward, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb. “Dydi bwrdd y cwmni, efo cefnogaeth y Llywodraeth, yn gwneud dim ond torri a gobeithio am y gorau.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dod lai na thair wythnos ar ôl dyddiad cau ymgynghoriad mawr gan y Llywodraeth yn San Steffan ar ddyfodol Swyddfa’r Post, ac mae’n codi dau fys ar bawb gymrodd ran yn yr ymgynghoriad hwnnw.”