Roedd corff a gafodd ei ganfod ar draffordd yr M1 wedi bod dan olwynion sawl car, yn ôl Heddlu Sir Northampton.

Mae rhan o’r lôn wedi’i chau ers 3yb ddydd Mawrth, pan gafodd yr heddu eu galw. Mae llefarydd ar ran yr heddlu wedi cadarnhau mai’r gred ydi mai corff dyn ydi o.

“Mae’n debyg fod sawl cerbyd wedi gyrru dros y corff,” meddai wedyn, “ac mae’r ymchwiliad yn parhau.”

Mae disgwyl i’r draffordd fod ar gau yn rhannol rhwng cyffordd 16 ger Northampton a chyffordd18 ger Rugby am y rhan fwya’ o’r dydd.