Mae merch 15 oed wedi cael ei arestio yn dilyn marwolaeth merch saith oed yn Swydd Efrog.

Mae heddlu yn holi’rr ferch yn ei arddegau wedi iddyn nhw ddod o hyd i’r ferch fach yn Woodthorpe, Caerefrog ag anafiadau difrifol.

Yn ôl Heddlu Gogledd Swydd Efrog, bu farw’r ferch yn fuan wedi iddi gael ei chludo i’r ysbyty.

“Mae swyddogion ar safle’r drosedd o hyd, ac mae’r ymchwiliad er mwyn sefydlu amgylchiadau’r farwolaeth yn parhau,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.