Mae gwerth y bunt wedi disgyn i’w lefel isaf ers mis Hydref heddiw yn dilyn arwyddion gan Brif Weinidog Prydain fod y Deyrnas Unedig yn wynebu Brexit “caled”.

Disgynnodd y bunt fwy na sent i $1.21 doler ddydd Llun, ac roedd y bunt hefyd yn is na’r ewro ar 1.15.

Mae rhai sylwebyddion yn credu bod hyn yn ymwneud â sylwadau Theresa May ddydd Sul, pan ddywedodd ei bod yn ceisio’r cytundeb gorau i Brydain o ran masnach, ond pwysleisiodd ei bod hi hefyd yn bwysig i adennill rheolaeth lwyr ar fewnfudo yn ystod y trafodaethau gyda Brwsel.

Ers pleidlais y refferendwm ym mis Mehefin, mae’r bunt wedi disgyn tua 18% yn erbyn y ddoler, a 10% yn erbyn yr ewro.

Er hyn, dywedodd Theresa May nad oedd hi’n derbyn y termau Brexit “caled” na “meddal.”