Theresa May Llun: Jonathan Brady/PA Wire
Mae disgwyl i Brif Weinidog Prydain gyhoeddi mesurau newydd i fynd i’r afael ag iechyd meddwl mewn ysgolion a gweithleoedd ar draws y Deyrnas Unedig.

Bydd yn canolbwyntio ar gyflwyno hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl mewn ysgolion uwchradd, cryfhau’r cysylltiad rhwng ysgolion â staff iechyd meddwl y gwasanaeth iechyd ynghyd â chynnal adolygiad ar y gwasanaethau i blant a phobol ifanc.

Yn ôl Theresa May, mae hyn yn rhan o’i gweledigaeth i fynd i’r afael ag “anghyfiawnderau cymdeithasol.”

‘Eilradd i iechyd corfforol’

Mae disgwyl y bydd £15 miliwn ychwanegol yn cael ei ddarparu i geisio ffyrdd newydd o gefnogi pobol sy’n dioddef o iechyd meddwl drwy gyflwyno clinigau cymunedol i geisio lleihau’r nifer o ymweliadau ysbyty.

Mae bwriad hefyd i ehangu at y gwasanaethau digidol ac adolygu’r system ddyled, lle gall rai pobol wynebu £300 gan feddyg i ddarparu tystiolaeth i gredydwyr fod ganddyn nhw gyflwr iechyd meddwl.

“Am rhy hir mae iechyd meddwl wedi bod yn anghyfiawnder cudd yn ein gwlad, dan stigma annerbyniol ac yn cael ei ddiystyru’n beryglus fel mater eilradd i iechyd corfforol,” meddai Theresa May.

“Mae’r newid hyn yn mynd at wraidd ein dynoliaeth,” meddai wedyn.

‘1 ymhob 4’

Mae cost economaidd a chymdeithasol iechyd meddwl tua £105 biliwn, ac mae un ymhob pedwar yn dioddef o gyflwr iechyd meddwl rywbryd yn eu bywydau, yn ôl y Llywodraeth.

Daw’r mesurau yn dilyn ffigurau sy’n dangos bod dros hanner problemau iechyd meddwl yn dechrau ymhlith pobol ifanc 14 oed, a 75% yn dechrau pan mae pobol yn 18 oed.