Mae elusen wedi rhybuddio nad yw’r mwyafrif o bobol ym Mhrydain sy’n dioddef o asthma, neu’r fogfa, yn derbyn cymorth ar y lefel fwyaf sylfaenol.

Yn ôl Asthma UK mae tua dau draean o bobol sy’n dioddef o’r cyflwr, sef tua 3.6 miliwn o bobol, ddim yn derbyn y cymorth mwyaf sylfaenol sydd ei angen er mwyn lleddfu eu cyflwr.

Mae gofal sylfaenol yn cynnwys derbyn adolygiad asthma unwaith y flwyddyn, derbyn y feddyginiaeth gywir a gwybod sut i’w ddefnyddio, a meddu ar gynllun ysgrifenedig i ddelio â’r cyflwr.

Amrywiad rhanbarthol

Yn ôl yr Arolwg Asthma Blynyddol ac ar sail ymateb 4,650 o gleifion o amgylch y Deyrnas Unedig mae rhai ardaloedd yn gwneud yn well nag eraill gyda Gogledd Iwerddon yn darparu’r gwasanaeth orau a Llundain y gwaethaf.

Yng Nghymru mae 32.2% yn derbyn cymorth lefel sylfaenol o’i gymharu â 41.1% yn yr Alban a 47.6% yng Ngogledd Iwerddon.

Yn 2015 mi wnaeth 1,468 farw o achos y cyflwr, y nifer uchaf ers dros ddegawd, ac mae’r elusen yn dadlau bod modd atal y mwyafrif o farwolaethau trwy’r cymorth sylfaenol cywir.