Mae gyrrwr wedi’i ladd, wedi i’w gar gael ei daro gan drên ar groesfan yn Lloegr.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ger Lidlington, Swydd Bedford, tua 10yb, Ionawr 3.

“Ar hyn o bryd, dyw marwolaeth y dyn ddim yn cael ei thrin fel un amheus,” meddai llefarydd ar ran yr Heddlu Trafnidiaeth. “Er hynny, mae swyddogion yn dal i ymchwilio i geisio penderfynu sut y daeth y car i fod ar y cledrau.”

Chafodd neb ar y trên London Midland ei anafu. Roedd cyfanswm o 11 o bobol a dau aelod o griw ar ei fwrdd.