Mae dyn o wledydd Prydain wedi’i ladd wrth ymladd yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd yn Syria, yn ôl adroddiadau.

Mae’n debyg fod Ryan Lock, 20 oed, o Chichester yng ngorllewin Sussex wedi ymuno â byddin y Cwrdiaid ar ôl dweud wrth ei deulu ei fod yn mynd ar wyliau i Dwrci ym mis Awst.

Clywodd ei deulu ei fod wedi marw gyda phedwar o ymladdwyr eraill ar Ragfyr 21 mewn ymgais i adennill y ddinas Raqqa.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor, “mae’r Deyrnas Unedig wedi argymell ers peth amser yn erbyn teithio i Syria…

“Gan fod holl wasanaethau consylaidd y Deyrnas Unedig wedi’u hatal yno, mae’n anodd iawn cadarnhau statws a lleoliad dinasyddion Prydeinig yn Syria.

“Mae unrhyw un sydd yn teithio i’r ardaloedd hyn, am ba bynnag reswm, yn rhoi eu hunain mewn peryg sylweddol.”