Mae dyn wedi marw wedi i’r heddlu ei saethu ar draffordd ger Huddersfield yng ngorllewin Swydd Efrog neithiwr.

Fe ddigwyddodd ar gyffordd 24 yr M62 wrth i’r heddlu gynnal gweithrediad “wedi’i gynllunio o flaen llaw” tua 6yh nos Lun, Ionawr 2.

Dywed llefarydd ar ran Heddlu Gorllewin Swydd Efrog fod “mwy nag un” wedi’i arestio ac angen triniaeth ysbyty i’w hanafiadau “nad oedd yn gysylltiedig â saethu dryll”.

Cadarnhawyd hefyd nad oedd unrhyw swyddogion yr heddlu wedi’u hanafu a’u bod yn “cydweithio’n llawn” ag ymchwilwyr o Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.

Nid yw enw’r dyn, na manylion pellach am y digwyddiad, wedi’u rhyddhau eto.