Mae cyrff dau ddyn ac un ddynes wedi’u canfod ger clogwyni yn ne ddwyrain Lloegr.

Fe gafodd yr heddlu eu galw y prynhawn yma gan rywun oedd yn pryderu am ddiogelwch dyn ger clogwyni Langdon yn Dover. Fe ddaeth y plismyn o hyd i gorff wrth odre’r creigiau.

Yn ystod y chwilio, fe ddaeth Gwylwyr y Glannau hefyd o hyd i gyrff ail ddyn a dynes. Dydi Heddlu Kent ddim yn meddwl bod cysylltiad rhwng marwolaeth y dyn cynta’ a’r ddau gorff arall.