Mae grwp cymunedol yng Nghernyw wedi codi miloedd o bunnau yn y gobaith o sefydlu cynllun i roi bywyd newydd i ffoaduriaid a’u teuluoedd sy’n cyrraedd yno.

Mae’r grwp, ‘Bude Welcomes Refugees’ yn gobeithio codi digon o arian i helpu dau deulu o Syria ddechrau bywyd newydd yn ne-orllewin Lloegr, fel rhan o gynllun noddi gan y Swyddfa Gartref a fydd yn dod i rym ym mis Gorffennaf.

Mae’r grwp yn cynnwys 30 o aelodau ar hyn o bryd, ac mae wedi codi mwy na £12,600 ar gyfer y ddau deulu cynta’ a fydd yn dod i Gernyw i wneud eu cartre’.

Fe fydd yr arian yn talu am gyfieithwyr, am wersi Saesneg, ac am gostau byw y teuluoedd.

Mae ‘Bude Welcomes Refugees’ wedi gwneud cais i ennill statws elusen, ac mae wedi cyflwyno ei gynllun i Gyngor Cernyw i’w gymeradwyo. Fe fydd angen y ddau beth er mwyn cael cymeradwyaeth gan y Swyddfa Gartref.