McDonald's (Llun: PA)
Mae llys wedi clywed y gallai merch naw oed gael ei hwfftio gan y gymuned Iddewig ar ôl i’w mam adael iddi fwyta bwyd McDonald’s a mynd i ddosbarth gymnasteg cymysg.

Dywedodd tad y ferch, sydd wedi gwahanu oddi wrth ei mam, ei fod yn gofidio y gallai ei theulu droi ei chefn arni.

Clywodd y llys fod y fam, sy’n byw yn Llundain, wedi dadrithio â byw ei bywyd yn ôl gofynion y ffydd.

Roedd y llys wedi penderfynu’n wreiddiol y dylai’r ferch fyw gyda’i thad, ond y gallai ymweld â’i mam.

Ond roedd y tad wedi codi pryderon am les y ferch yng ngofal ei mam, gan gynnwys y ffaith fod ei mam wedi mynd â hi i Southend ar y Saboth, a bod y fam hefyd yn gwisgo dillad anaddas i fynd i gasglu’r ferch o’r ysgol.

Dywedodd y barnwr yn y llys fod y fam wedi addo atal ei merch rhag bwyta cig yn y dyfodol, ond gwrthododd dynnu ei merch allan o’r dosbarth gymnasteg.

Cytunodd y barnwr na ddylai’r ferch orfod gadael y dosbarth.

Dywedodd y fam ei bod hithau’n gofidio am y ffordd yr oedd y ferch yn cael ei magu gan ei thad, a bod ei gredoau crefyddol yn “estron” iddi.