Cofeb Hillsborough yn Anfield (Llun: Golwg360)
Mae cyn-Esgob Lerpwl, James Jones wedi talu teyrnged i deuluoedd y 96 o gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl a fu farw yn dilyn trychineb Hillsborough yn 1989, a hynny ar ôl iddo dderbyn KBE fel rhan o Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines.

Mae’n derbyn yr anrhydedd am ei waith wrth gefnogi’r teuluoedd yn eu hymgais i gael cyfiawnder mewn cwest i’w marwolaethau chwarter canrif ar ôl i’r cefnogwyr gael eu beio yn y cwestau gwreiddiol.

Cyhoeddodd panel Hillsborough eu hadroddiad yn 2012, gan arwain at gwestau newydd oedd wedi dod i’r casgliad yn y pen draw fod nifer o gyrff, ond nid y cefnogwyr, ar fai am y trychineb.

Dywedodd yr Esgob James Jones: “Mae’n anrhydedd o’r mwyaf ond yn amlwg yn destun peth tristwch oherwydd yr ymdeimlad hir o golled sydd gan y teuluoedd.”

Awdur Hillsborough yn gwrthod OBE

Yn y cyfamser, mae awdur sydd wedi cyhoeddi’n helaeth am y trychineb, yr Athro Phil Scraton wedi gwrthod OBE gan y Frenhines.

Fe oedd arweinydd ymchwil panel Hillsborough, ac fe wrthododd yr anrhydedd mewn protest yn erbyn “y rheiny oedd yn anweithgar” o fewn Llywodraeth Prydain yn ystod ymgais y teuluoedd i gael cyfiawnder.