Mae dyn 18 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, wedi i fachgen yn ei arddegau gael ei drywanu ger ffair brysur yn Llundain.
Fe gafodd y dioddefwr ei daro oddi ar ei feic gan gar, ac mae’n parhau i fod yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth i’w anafiadau.
MAe ditectifs Scotland Yard yn credu i’r bachgen gael ei dargedu gan griw o ddynion a ddaeth allan o’r car Ford Focus oedd yn gyfrifol o’i daro oddi ar ei feic, a hynny toc cyn 6.15yh ddydd Mawrth.
Fe ddaethpwyd o hyd i’r bachgen yn ddiweddarach yn Brixton.
Mae swyddogion heddlu Llundain wedi arestio dyn ifanc heddiw ac mae’n parhau i gael ei holi yn y ddalfa.