Niwl rhewllyd uwchben anon Hafren ger cadeirlan Caerwrangon y bore yma (llun: David Davies/PA Wire)
Am yr ail ddiwrnod yn olynol mae niwl rhewllyd yn gorchuddio rhannau helaeth o Loegr, gan ymestyn dros y ffin i rai ardaloedd dwyreiniol o Gymru.
Mae’n achosi problemau ar y ffyrdd gyda gyrwyr yn gorfod dygymod ag anawsterau i weld a haenau cudd o rew.
Caiff modurwyr eu rhybuddio bod y cyfuniad o niwl a rhew yn gwneud y ffyrdd yn hynod beryglus.
“Gallai methiant i gymryd gofal digonol a pharatoi at y gwaethaf arwain at drychineb,” meddai Ian Crowder o’r AA.
Mae teithiau awyrennau hefyd wedi cael eu gohirio oherwydd y niwl trwchus ym meysydd awyr Heathrow a London City.