Jeremy Corbyn - realiti (Garry Knight CCA2.0)
Mae llefarydd ar ran yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, wedi taro’n ôl yn erbyn beirniadaeth gan Barack Obama.

Mewn cyfweliad radio, roedd Arlywydd yr Unol Daleithiau fel petai’n cyhuddo Jeremy Corbyn o golli cysylltiad â realiti.

Wrth ateb cwestiwn am y tebygrwydd rhwng Llafur a’i Blaid Ddemocrataidd yntau, fe ddywedodd Barack Obama fod honno wedi ei “gwreiddio mewn ffeithiau a realiti”.

‘Yr hyn y mae pobol eisio’

Roedd yr ymgeisydd asgell chwith am yr arlywyddiaeth eleni, Bernie Sanders, “tua’r canol” o gymharu â Jeremy Corbyn, meddai Barack Obama.

Ond fe ddywedodd llefarydd ar ran yr arweinydd Llafur fod y rhan fwya’ o bobol yn credu bod syniadau Jeremy Corbyn wedi’u gwreiddio mewn realiti.

“Yr hyn y mae Jeremy Corbyn yn sefyll drosto yw’r hyn y mae’r rhan fwya’ o bobol eisiau,” meddai. “I daclo twyllwyr threth, i greu economi tecach, cyllido Gwasanaeth Iechyd cwbl gyhoeddus, adeiladu rhagor o gartrefi a rhoi’r gorau i gefnogi rhyfeloedd anghyfreithlon.”

Ken Loach yn condemnio’r ‘tanseilwyr’

Ac mae’r gwneuthurwr ffilmiau asgell chwith, Ken Loach, wedi condemnio ASau Llafur “asgell dde” sydd, meddai, yn dal i danseilio Jeremy Corbyn a’i brif genfnogwr, John McDonnell.

Mewn llythyr i bapur y Guardian, fe ddywedodd eu bod yn benderfynol o ddinistrio plaid “na fedren nhw ei rheoli”.