Mae dyn ifanc a gafodd ei drywanu i farwolaeth ar noswyl Nadolig, wedi cael ei ddisgrifio fel mab, wyr a brawd annwyl iawn.

Mae dau o bobol wedi’u cyhuddo o lofruddio Owen Kerry o Cramlington yn  Northumberland. Bu farw’r dyn 19 oed wedi digwyddiad mewn clwb.

Fe gafodd parafeddygon eu galw i’r Workmen’s Club yn Cramlington tua 10.30yh nos Sadwrn.

Fe gafodd Owen Kerry ei drin yn y fan a’r lle a’i gludo i Ysbyty’r Inffyrmari Brenhinol yn Newcastle, ond bu farw’n ddiweddarach o ganlyniad i’w anafiadau.

Fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu Northumbria fod Lyndsey Harper, 36, o Annitsford; a Brian Cahill, 35, o Dudley, wedi’i cyhuddo o lofruddiaeth, ac y byddan nhw’n ymddangos gerbron ynadon yn Llys y Goron Newcastle ddydd Mawrth.