Mae golygydd gwleidyddol y BBC yn dweud iddi gael gwybod fod y Frenhines o blaid tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd… ond na wnaeth gyhoeddi hynny am na allai ddod o hyd i ail ffynhonnell.

Mae Laura Kuenssberg yn dweud iddi fod yn ymwybodol o farn y Frenhines “rai misoedd” cyn i bapur newydd The Sun gyhoeddi ei bennawd, ‘Queen backs Brexit’ ym mis Mawrth eleni.

Fe achosodd y stori dudalen flaen un o’r ffraeau mwya’r ymgyrch cyn y refferendwm ym mis Mehefin, ac fe ddaeth cwyn lwyddiannus o Balas Buckingham i’r corff sy’n rheoleiddio’r wasg, Ipso. Y canlyniad oedd fod y pennawd yn un “camarweiniol”.

Today

Ar raglen radio Today ar Radio 4 heddiw, dywedodd Laura Kuenssberg ei bod yn “gegagored” pan glywodd gan ffynhonnell ddienw fod y Frenhines wedi dweud wrth gynulleidfa mewn cinio preifat na allai ddeall pam na fyddai Prydain yn gallu “jyst gadael yr Undeb Ewropeaidd”.

“Mewn sgwrs anffurfiol gydag un o fy ffynhonellau, fe ddywedon nhw, ‘Wyddoch chi be? Mae’r cyfan yn mynd i ddod allan ar ryw bwynt. Dw i ddim yn gwybod os bydd y BBC yn fodlon cyffwrdd y stori, ond mae’r Frenhines wedi dweud ei bod yn credu y dylen ni adael yr Undeb Ewropeaidd’.

“Ro’n i’n gegagored,” meddai Laura Kuenssberg. “Yn anffodus, dim ond un ffynhonnell oedd gen i. Mi dreuliais i’r dyddiau canlynol yn ceisio ei brofi, ond fedrwn i ddim dod o hyd i dystiolaeth.”