Mae steilydd gwallt wedi ymddangos gerbron llys heddiw, ar gyhuddiad o fynd ati’n fwriadol i ledu’r feirws HIV ymhlith ei gariadon.

Fe ymddangosodd Daryll Rowe, 26, o Gaeredin, gerbron ynadon yn Llys y Goron Newcastle. Gwrthododd gyflwyno plê mewn ymateb i saith cyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol (GBH) ac un cyhuddiad arall o geisio achosi niwed corfforol difrifol.

Dywedir i’r troseddau honedig ddigwydd rhwng Hydref 2015 a Ionawr 31, 2016.

Clywodd y llys gan yr erlynydd, Gary Buckley, fod Daryll Rowe wedi profi’r bositif i HIV, a bod y troseddau’n ymwneud ag e’n cael cyfathrach rywiol gyda dioddefwyr honedig.

Mae Daryll Rowe wedi’i gadw yn y ddalfa nes y bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Newcastle ar Ionawr 23.