Dim ond unwaith mewn 49 o flynyddoedd y cafwyd panel merched-i-gyd ar raglen gomedi ar y teledu neu’r radio, yn ôl ymchwil newydd.

Cafodd mwy na 4,700 o raglenni comedi eu hasesu, a dim ond ‘Heresy’ ar Radio 4 yn 2012 oedd yn cynnwys panel o fenywod yn unig.

Yn y cyfnod dan sylw, cafwyd panel dynion-i-gyd 1,488 o weithiau.

Y gwyddonydd Stuart Lowe oedd wedi cwblhau’r gwaith ymchwil, yn ôl papur newydd y Guardian.

Dywedodd ar ei wefan: “Mae bron bob un o’r rhaglenni hirdymor hyn yn tan-gynrychioli merched, hyd yn oed os ydych chi’n anwybyddu’r [panelwyr] rheolaidd.

“Ychydig iawn o raglenni sydd yn cynrychioli’r ddau ryw yn gyfartal o ran gwesteion.

“Dw i’n mentro bod rhai sioeau hyd yn oed yn tan-gynrychioli nifer y merched ar y sîn gomedi (sydd rhwng 17-24%).”