Mae gan dros 21,000 o gartrefi yng ngogledd yr Alban drydan unwaith eto ar ôl i Storm Barbara daro.

Ond mae rhybuddion am dywydd garw yn eu lle ar gyfer Noswyl Nadolig, ac mae disgwyl glaw, gwyntoedd cryfion o hyd at 80 milltir yr awr, rhew ac eira mewn rhai ardaloedd.

Mae disgwyl i Storm Conor daro’r wlad dros Ddydd Nadolig a Dydd San Steffan, yn enwedig ar ynysoedd yr Alban.

Mae lle i gredu bod 762 o gartrefi heb drydan o hyd.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni ynni SSEN eu bod nhw “ar eu gwyliadwraeth”.

Mae rhybudd i deithwyr sicrhau cyn teithio bod trafnidiaeth gyhoeddus ar gael.

Mae modd gwirio cyflenwadau trydan drwy ffonio 105 yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.