Mae’r heddlu wedi dal gyrrwr yn “sipian JD a coke” tra’n gyrru 90 milltir yr awr ar hyd lôn yn Swydd Derby.

Hefyd roedd y gyrrwr yn meddu ar ganabis a chocên wrth deithio ar hyd yr A52 yn Borrowash dros nos, yn ôl Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Swydd Derby.

Mae’r gyrrwr wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bo’r heddlu yn dadansoddi sampl o’i waed.

Yn ôl yr Heddlu roedd ymddygiad y gyrrwr yn “wirion bost”.