Jeremy Corbyn yw Arweinydd y Blaid Lafur
Mae adroddiad academaidd diweddar yn dweud bod “hollt yn lledaenu” rhwng cefnogwyr y Blaid Lafur a allai arwain at berfformiad etholiadol gwaetha’r blaid “ers y 1930au”.

Yn ôl yr Athro Gwleidyddol Matthew Goodwin o Brifysgol Kent mae’r blaid yn wynebu “penbleth strategol” ac fe fyddai etholiad cynnar yn arwain at y Ceidwadwyr yn ennill gyda mwyafrif o 100 o seddi.

Mae Matthew Goodwin yn dweud bod rhwyg amlwg rhwng cefnogwyr dosbarth gweithiol Ewrosgeptig a chefnogwyr dosbarth gweithiol cosmopolitan y blaid – rhwyg a fydd yn debygol o gael ei ecsbloetio gan bleidiau eraill.

Y gred yw bydd UKIP a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn manteisio ar y rhwyg yma trwy dargedu cefnogwyr Llafur.

Er bod y Blaid Lafur yn ganolog yn cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn ystod refferendwm Mehefin 23, mi wnaeth bron i 70% o etholaethau Llafur bleidleisio tros adael.