Llun Fritzs CCA 3.0
Mae ymchwil Newydd yn awgrymu y byddai treth siwgr ar ddiodydd ysgafn yn arwain at lai o blant rhy dew

Mae erthygl yn y cyfnodolyn iechyd, The Lancet, yn awgrymu y byddai treth siwgr yn arwain at lai o ordewdra, llai o glefyd y siwgr a llai o bydredd dannedd ymysg oedolion a phlant.

Y gred yw y byddai codi treth uwch ar ddiodydd siwgwrllyd yn arwain at gynnydd yn eu prisiau ac, felly, yn eu gwneud yn llai deniadol.

Yn ôl yr erthygl, byddai treth o 20% yn arwain at:Byddai eu galwad am dreth o 20% yn debygol o arwain at:

  • ostyngiad o 144,000 mewn oedolion a phlant sy’n rhy dew
  • 19,000 yn llai o achosion o glefyd y siwgr teip 2
  • ostyngiad bob blwyddyn o 269,000 mewn achosion o bydredd dannedd.

Ond mae rhai arbenigwyr maetheg  yn dadlau bod yr ymchwil wedi gorliwio’r effaith fyddai’r dreth yn ei gael ac mae’r diwydiant diodydd wedi bod yn ymgyrchu’n gry’ yn erbyn y cam.

Y dreth yng Nghymru

Union flwyddyn yn ôl fe bleidleisiodd y Cynulliad yng Nghymru tros gynnig gan Blaid Cymru yn cefnogi’r syniad o dreth.

Roedd y Llywodraeth, ac aelodau Llafur a’r Democratiaid Cymdeithasol wedi cefnogi’r cynnig ond y Ceidwadwyr yn erbyn yr hyn yr oedden nhw’n ei galw yn ‘Tango tax’.

Roedd Plaid Cymru wedi cefnogi’r syniad o dreth ers pasio cynnig yn eu cynhadledd yn 2013, pan awgrymon nhw y gallai mabwysiadu’r dreth yng Nghymru godi arian i’w wario ar fwy o feddygon ar gyfer y gwasanaeth iechyd.