Mae mwy na 1,000 o fanciau ar y stryd fawr yng ngwledydd Prydain wedi cael eu cau ers dechrau mis Ionawr y llynedd, yn ôl ymchwil gan gwmni Which?.

Yn ôl y cwmni, gwasanaethau ar-lein a chynnig gwasanaethau yn swyddfeydd y post sydd i gyfri am y 1,046 o ganghennau sydd wedi cael eu cau.

HSBC sydd wedi cau’r nifer fwyaf o ganghennau (321), sef tua chwarter eu holl ganghennau, ac RBS sydd yn ail, ar ôl cau 191 o ganghennau (10% o’u cyfanswm).

Mae cwmni bancio Lloyds – sy’n cynnwys Lloyds, Halifax a’r Bank of Scotland – wedi cau 180 o ganghennau (14% o’u cyfanswm).

Dywed HSBC fod ymwelwyr â’u canghennau wedi gostwng 40% dros gyfnod o bum mlynedd wrth i fwy o gwsmeriaid droi at wasanaethau ar-lein.

Yn ôl Which?, pobol yng nghefn gwlad sy’n defnyddio canghennau’r stryd fawr yn bennaf, a hynny am nad oes ganddyn nhw fynediad da i fand llydan.

Tra bod 72% o gwsmeriaid swyddfa’r post yn fodlon ar y gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw, dywedodd 41% nad oedden nhw’n ymwybodol eu bod yn cynnig gwasanaethau bancio.

Cau canghennau

Dywedodd prif weithredwr Which?, Peter Vicary-Smith: “Dylai mynediad i’r gwasanaethau angenrheidiol i wneud bancio bob dydd yn bosib fod yn syml.

“Ry’n ni wedi gweld enghreifftiau da o fanciau’n gweithredu mewn modd cyfrifol ac er lles cymunedau lleol wrth gau canghennau.

“Fodd bynnag, rhaid i fanciau wneud yn well wrth gydweithio â’u cwsmeriaid i ddeall eu hanghenion nhw a’r gymuned leol, yn enwedig wrth wneud newidiadau i’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig neu wrth gau canghennau.”

Ym mis Tachwedd, roedd banciau wedi addo rhoi mwy o gefnogaeth i gwsmeriaid mewn ardaloedd lle mae banciau’n cael eu cau.

Ond mae arolwg wedi dangos y gallen nhw wneud mwy i helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i ffyrdd amgen o reoli eu harian.